Psalms 107

LLYFR PUMP

(Salmau 107—150)

Canmol daioni Duw

1Diolchwch i'r Arglwydd!
Mae e mor dda aton ni!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2Gadewch i'r rhai mae'r Arglwydd wedi eu gollwng yn rhydd ddweud hyn,
ie, y rhai sydd wedi eu rhyddhau o afael y gelyn.
3Maen nhw'n cael eu casglu o'r gwledydd eraill,
o'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.
4Roedden nhw'n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt,
ac yn methu dod o hyd i dre ble gallen nhw fyw.
5Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw,
ac roedden nhw wedi colli bob egni.
6Dyma nhw'n galw ar yr Arglwydd yn eu trybini,
a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion,
7ac yn eu harwain nhw'n syth
i le y gallen nhw setlo i lawr.
8Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r Arglwydd am ei gariad ffyddlon,
a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
9Mae wedi rhoi diod i'r sychedig,
a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu.
10Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew,
ac yn gaeth mewn cadwyni haearn,
11am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw,
a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau.
12Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde.
Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu.
13Yna dyma nhw'n galw ar yr Arglwydd yn eu trybini,
a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
14Daeth â nhw allan o'r tywyllwch,
a thorri'r rhaffau oedd yn eu rhwymo.
15Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r Arglwydd am ei gariad ffyddlon,
a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
16Mae wedi dryllio'r drysau pres,
a thorri'r barrau haearn.
17Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddiodde
am bechu a chamfihafio.
18Roedden nhw'n methu cadw eu bwyd i lawr,
ac roedden nhw'n agos at farw.
19Ond dyma nhw'n galw ar yr Arglwydd yn eu trybini,
a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
20Dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu,
ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth.
21Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r Arglwydd am ei gariad ffyddlon,
a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
22Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo,
a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi ei wneud!
23Aeth rhai eraill ar longau i'r môr,
i ennill bywoliaeth ar y môr mawr.
24Cawson nhw hefyd weld beth allai'r Arglwydd ei wneud,
y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn.
25Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi,
ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel.
26I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw!
Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
27Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi,
a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim.
28Dyma nhw'n galw ar yr Arglwydd yn eu trybini,
a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
29Gwnaeth i'r storm dawelu;
roedd y tonnau'n llonydd.
30Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu,
ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.
31Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r Arglwydd am ei gariad ffyddlon,
a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
32Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa,
a'i foli o flaen yr arweinwyr.
33Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch,
a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych,
34tir ffrwythlon yn dir diffaith
am fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg.
35Neu gall droi'r anialwch yn byllau dŵr,
a'r tir sych yn ffynhonnau!
36Yna rhoi pobl newynog i fyw yno,
ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi.
37Maen nhw'n hau hadau yn y caeau
ac yn plannu coed gwinwydd,
ac yn cael cynhaeaf mawr.
38Mae'n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw,
a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid.
39Bydd y rhai sy'n gorthrymu
107:39 Dydy'r geiriau rhai sy'n gorthrymu ddim yn yr Hebraeg. Hebraeg, “nhw”
yn colli pobl,
yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch.
40Mae Duw yn dwyn anfri ar y bobl fawr
ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau.
41Ond mae'n cadw'r rhai sydd mewn angen yn saff,
rhag iddyn nhw ddiodde,
ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau.
42Mae'r rhai sy'n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu –
Ond mae'r rhai drwg yn gorfod tewi.
43Dylai'r rhai sy'n ddoeth gymryd sylw o'r pethau hyn,
a myfyrio ar gariad ffyddlon yr Arglwydd.
Copyright information for CYM